BikeSafe
Prosiect beicio modur a arweinir gan yr heddlu yw BikeSafe ac mae’n cael ei redeg gan y rhan fwyaf o heddluoedd yn y DU. Y prif nod yw lleihau nifer y beicwyr sy’n cael eu hanafu ar y ffyrdd. Dylai beicio fod yn hwyl, a thrwy wella sgiliau, gwybodaeth, ac ymwybyddiaeth am beryglon, y gobaith yw y bydd yn gwneud beicio modur yn fwy diogel ac yn fwy pleserus.
Mae’r gweithdy Beicio Diogel yn archwilio i’r prif beryglon rydych chi fel beiciwr yn eu hwynebu. Drwy gynnig cyflwyniadau a theithiau sy’n cael eu goruchwylio, bydd gweithdy Beicio Diogel yn eich helpu chi i ddarganfod eich cryfderau a’ch gwendidau. Bydd hefyd yn eich cynorthwyo i wybod beth ddylech wneud nesaf er mwyn cael mwy allan o’ch beic modur.
Dyddiadau'r Cyrsiau yma
DVSA CYNLLUNIAU BEICWYR UWCH
Dragon Rider
Mae’r cwrs fel arfer yn cael ei gynnal ar benwythnos, ac mae’n para diwrnod. Mae’n cynnwys sesiwn mewn dosbarth yn y bore sy’n cael ei gynnal mewn gorsaf Tân ac Achub ddynodedig. Bydd sesiwn y prynhawn yn cael ei chynnal ar y ffordd, gan ddefnyddio amryw o ffyrdd ledled y rhanbarth i fodloni hyfforddiant beicio modur y beiciwr unigol, yn seiliedig ar ganllaw beiciwr heddlu uwch, Roadcraft.
Dyddiadau'r Cyrsiau:
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Sir Gâr
Cynllun Gwella Beicwyr Modur Ceredigion
Mae Cynllun Gwella Beicwyr Modur Ceredigion yn cynnig hyfforddiant i feicwyr modur sy’n byw yng Ngheredigion, ac mae’n cynnwys theori a hyfforddiant ymarferol. Cynhelir cyrsiau ar benwythnosau yn swyddfeydd y Cyngor Sir yn Aberaeron.
Cyrsiau 2025
5 Ebrill
2 Mai
7 Mehefin
5 Gorffennaf
20 Awst
9 Medi
Cysylltwch â hpw@ceredigion.gov.uk i archebu cwrs.
Cynllun Gwella Beicwyr Modur Powys
Gwahoddir beicwyr modur i ymuno â chwrs hyfforddi uwch am ddim i feicwyr i helpu i wella eu sgiliau gyrru beic a diogelwch ffyrdd Powys.
Mae'r cwrs yn cynnwys sesiwn theori fer ar-lein a sesiwn ymarferol hanner diwrnod ar y ffordd (ar benwythnos) gyda hyfforddwr profiadol. Nid oes prawf, ond asesir sgiliau gyrru beic, a rhoddir hyfforddiant priodol i bob cyfranogwr a fydd, gobeithio, yn derbyn tystysgrif cymhwysedd DVSA ar ôl cwblhau'r cynllun.
Cysylltwch â ni i gadw eich lleoedd cyn gynted â phosibl: 01597 826924 neu miranda.capecchi1@powys.gov.uk.
Dyddiadau'r Cyrsiau yma
BEICIO MODUR UWCH
Bydd hyfforddiant beicio modur uwch yn eich dysgu am systemau diogel o feicio modur bwriadol, cyfrifol a champus. Hefyd, gall arwain at gymhwyster beicio modur uwch a gydnabyddir yn genedlaethol. P’un a ydych eisiau gwella’ch sgiliau neu baratoi ar gyfer prawf gyrru uwch, efallai gall y sefydliadau canlynol eich helpu:
- IAM RoadSmart
- RoADAR
- DIAmond Advanced Motorists
LOTERI

Os ydych chi wedi cymryd rhan mewn un o'r cyrsiau hyn yng Nghymru, mae eich adborth yn bwysig.
Rydym yn eich gwahodd i gwblhau'r arolwg isod ac i gael eich cofrestru mewn loteri sy'n rhoi cyfle i ennill £250 gan Diogelwch Ffyrdd Cymru.
Arolwg a Loteri